P-04-560 : Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i barhau gyda’i hymrwymiad i wella safonau triniaeth a gofal ar gyfer pobl â Chlefyd Crohn a Llid Briwiol y Coluddyn drwy ddatblygu cynllun cyflawni gastroenteroleg. Bydd hynny’n sicrhau bod y bobl â’r cyflyrau hyn yn cael gofal o’r safon uchaf lle bynnag y maent yng Nghymru.

 

Gwybodaeth ychwanegol - Mae safon y gofal ar gyfer pobl â Chlefyd Crohn a Llid Briwiol y Coluddyn wedi gwella yng Nghymru yn dilyn lansio Safonau ar gyfer Gofal Iechyd Pobl sydd â Chlefyd Llid y Coluddyn yn y Cynulliad yn 2009. Fodd bynnag, mae archwiliad annibynnol o ofal Clefyd Llid y Coluddyn wedi dangos nad yw’r ansawdd wedi gwella mor gyflym â gwledydd eraill yn y DU.

Felly, mae angen annog gwelliant pellach drwy ddatblygu Cynllun Cyflawni Gastroenteroleg a fydd yn mynd i’r afael â gwahaniaethau a sicrhau bod safonau sylfaenol yn cael eu bodloni yn ystod triniaethau.

Prif ddeisebydd:  South Wales IBD Patient Panel

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 17 Mehefin 2014

Nifer y llofnodion: 664